Yn gynnar ym more oes yr iaith Gymraeg
disgynnodd geiriau fel gwlith
a ffurfiodd y cystrawennau we ddisglair
i befrio yn yr haul.
Glynnodd gair wrth air
yn wlybaniaeth o wawn gloyw
ac yn wefr o ystyr.
Wrth i’r gwlith sychu
ac i gysgodion diwedd pnawn grynhoi
daethoch chwithau â Gwe newydd o obaith
i wefru’r gair
ac i drydaneiddio’r holl gysgodion
wrth herio nos.