Cymdeithas Meddalwedd Cymraeg

Sefydlwyd Cymdeithas Meddalwedd Cymraeg yn sgil datblygiadau cyffrous ym myd technoleg gwybodaeth â’r Gymraeg.

Prif nod y Gymdeithas yw dwyn i sylw’r cyhoedd a defnyddwyr waith y gymuned technoleg gwybodaeth Gymraeg a dathlu ei llwyddiannau.

Mae hi'n dwyn ynghyd y sawl sy’n ymwneud â thechnoleg gwybodaeth yn y Gymraeg o’r sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol, gan gynnwys technoleg cod agored a chod caeedig fel ei gilydd.

Lansiwyd CMC yn swyddogol gan y Cynghorydd Dafydd Iwan yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri a'r Cyffiniau, 2005. Dymuna CMC ddiolch i Gyngor Gwynedd am noddi stondin CMC yn yr Eisteddfod honno.

 


hawlfraint ©2006 Cymdeithas Meddalwedd Cymraeg