Cyfansoddiad (Drafft i'w fabwysiadu)

MEMORANDWM AC ERTHYGLAU CYMDEITHASIAD
Cymdeithas Meddalwedd Cymraeg

1. Enw’r Gymdeithas (y cyfeirir ato o hyn ymlaen fel “y Gymdeithas") yw
Cymdeithas Meddalwedd Cymraeg. Defnyddir y cyfieithiad canlynol o’r enw yn y Saesneg at ddibenion egluro yn unig: The Association of Welsh Language Software.

2. Sefydlwyd y Gymdeithas gyda’r bwriad o ddwyn i sylw’r cyhoedd a defnyddwyr waith y gymuned technoleg gwybodaeth Gymraeg a dathlu ei llwyddiannau. I’r perwyl hwnnw ei nod yw dwyn ynghyd y sawl sy’n ymwneud â thechnoleg gwybodaeth yn y Gymraeg o’r sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol, gan gynnwys technoleg cod agored a chod caeedig fel ei gilydd.

3. Amcanion y Gymdeithas fydd:

3.1 Annog y defnydd o’r Gymraeg ym mhob amgylchedd technoleg gwybodaeth bosib

3.2 Annog datblygu meddalwedd a thechnoleg iaith Cymraeg

3.3 Annog cyfieithu ac addasu meddalwedd safonol i’r Gymraeg

3.4 Annog cynhyrchu cynnwys o safon yn y Gymraeg

3.5 Annog creu deunydd hyfforddi a chyrsiau dysgu technoleg gwybodaeth yn y Gymraeg.

4. Er cyflawni’r bwriadau a’r amcanion uchod, nid er unrhyw ddiben arall, bydd gan y Gymdeithas y pwerau a ganlyn:

4.1. I brynu, ymgymryd â phrydles neu gyfnewid, llogi neu gaffael mewn unrhyw ffordd arall a dal dros unrhyw ystâd neu fudd, tiroedd, adeiladau, hawddfreintiau, hawliau, breiniau, consesiynau, hawliau patent, trwyddedau, prosesau cyfrinachol, eiddo o unrhyw fath sydd eu hangen neu a fyddai’n gyfleuster i ddiben cyflawni bwriad y Gymdeithas.

4.2. I fenthyca neu godi neu sicrhau taliad ariannol i ddiben cyflawni neu mewn cysylltiad â chyflawni bwriad y Gymdeithas, neu i ddiben neu mewn cysylltiad â benthyca neu godi arian gan y Gymdeithas, i ddod yn aelod o unrhyw Gymdeithas Adeiladu ac i gadw cyfrifon banc.

4.3. I dderbyn arian ar adnau neu fenthyciad yn ôl telerau a gymeradwyir gan y Gymdeithas ac i warantu ymrwymiadau a chontractau cleientiaid a chwsmeriaid ac eraill gan gynnwys aelodau’r Gymdeithas.

4.4. I dynnu, gwneud, derbyn, cadarnhau, trafod, diystyru neu weithredu addawebau, biliau; cyfnewid, sieciau neu offerynnau trosglwyddadwy eraill.

4.5. I apelio am arian a cheisio tanysgrifiadau i gronfeydd y Gymdeithas ac i dderbyn benthyciadau di-log, cyfraniadau a rhoddion ar ffurf eiddo real neu bersonol gan gynnwys y rheini a roddir ar ymddiriedolaeth ac/neu ar amodau sy’n gydnaws â bwriad y Gymdeithas ac i weithredu yn unol â’r cyfryw ymddiriedolaeth ag/neu amodau sy’n gydnaws â bwriad y Gymdeithas.

4.6. I gyfrannu arian parod neu asedau at unrhyw elusen fel y bernir yn briodol gan y Gymdeithas.

4.7. I sefydlu unrhyw bartneriaeth ag unrhyw gwmni, corff neu berson sy’n cyflawni neu sy’n bwriadu cyflawni bwriad y Gymdeithas hwn.

4.8. I sefydlu neu hyrwyddo neu gytuno i sefydlu unrhyw gwmni, busnes, cywaith neu gorff arall yr ystyrir y byddai ei hyrwyddo o fantais uniongyrchol neu anuniongyrchol i Fwriad neu fuddiannau’r Gymdeithas ac i brynu neu ddal neu waredu cyfrannau, stociau, gwarantau neu eiddo neu ymrwymiadau eraill y cyfryw gorff.

4.9. I brynu neu gael mewn ffordd arall ac i ymgymryd â chyfran o neu â holl fusnes, eiddo, asedau, rhwymedigaethau a thrafodion unrhyw berson neu gwmni sy’n cyflawni unrhyw fusnes y caniateir i’r Gymdeithas ei gyflawni.

4.10. I wneud, cyhoeddi, cyflenwi, gwerthu neu ddelio â llyfrau, cyfnodolion neu recordiadau sain, ffilm neu fideo a chyhoeddiadau eraill mewn unrhyw gyfrwng neu unrhyw ddeunydd addysgol neu hyfforddi eraill neu i draddodi darlithoedd cyhoeddus, cynnal cyfarfodydd cyhoeddus neu seminarau a chyflwyniadau eraill, boed hynny trwy ddefnyddio’r deunydd addysgol neu hyfforddi uchod neu beidio.

4.11. I gael neu brynu’r holl hawlebau, trwyddedau neu nodau masnach a hawliau eiddo deallusol eraill sydd eu hangen i alluogi’r Gymdeithas i gyflawni’i fwriad neu fel y gwelir bod angen, i ddiogelu ei eiddo ar sail y cyfryw amodau a thelerau fel y gwêl yn dda. 4.12. I werthu, gwella, rheoli, datblygu, troi’n arian, cyfnewid, gosod neu rentu breindal, cyfran o elw neu fel arall, hawddfreintiau, trwyddedau neu hawliau eraill ar gyfran o’r neu’r holl eiddo ac asedau sydd ar y pryd yn perthyn i’r Gymdeithas, neu ddelio mewn unrhyw fodd neu werthu’r ymgymeriad, am ba gydnabyddiaeth bynnag y gwêl y Gymdeithas yn dda, yn amodol ar ddarpariaethau cymal 5.

4.13. I wneud yr holl bethau cyfreithlon eraill hynny sy’n angenrheidiol i gyflawni’r bwriad.

Wrth gyflawni’r bwriad uchod rhaid i’r Gymdeithas warchod lles corfforol, meddyliol ac emosiynol y gymuned.

5. Caiff incwm ac eiddo’r Gymdeithas o ba le bynnag y bo’n deillio ei ddefnyddio’n unig i ddiben

hyrwyddo’r bwriad ac ni chaiff yr un rhan ohono ei thalu na’i throsglwyddo’n uniongyrchol nac yn anuniongyrchol ar ffurf difidend, bonws neu fel arall o’r elw i aelodau’r Gymdeithas ac eithrio drwy dalu’n ddidwyll gyflogau/ffioedd rhesymol a phriodol ac ad-daliadau (gan gynnwys benthyciadau) treuliau i unrhyw aelod neu weithiwr i’r Gymdeithas yn gyfnewid am wasanaethau a roddir i’r Gymdeithas mewn gwirionedd.

6. Bydd gan yr aelodau atebolrwydd cyfyngedig.

7. Mae pob aelod o’r Gymdeithas yn ymgymryd i gyfrannu at asedau’r Gymdeithas os digwydd i’r Gymdeithas gael ei diddymu tra’i fod yn aelod neu o fewn blwyddyn ar ôl iddo/iddi beidio â bod yn aelod, i ddiben talu dyledion neu rwymedigaethau’r Gymdeithas a gontractiwyd cyn iddynt beidio â bod yn aelod, ac i dalu costau, taliadau a threuliau’r diddymiad a chymhwyso hawliau a chyfraniadau ymysg ei gilydd, swm gofynnol na fydd yn fwy na phunt.

8. Bydd gan bob aelod un bleidlais pan roddir unrhyw gynnig ger bron neu pan gynhelirpleidlais gudd, waeth faint bynnag o arian, asedau neu warantau y byddant wedi eu benthyca neu eu cyfrannu mewn unrhyw ffordd i’r Gymdeithas.

9. Wedi i’r Gymdeithas ymddatod neu gael ei ddiddymu, ar ôl talu ei holl ddyledion a rhwymedigaethau, ni chaiff yr asedau sy’n weddill eu dosbarthu ymhlith yr aelodau ond cânt eu trosglwyddo er hyrwyddo’r bwriad a enwyd i unrhyw gorff sydd â bwriad elusennol, dyngarol a/neu fuddiol sy’n debyg i amcan y Gymdeithas neu’n sy’n gydnaws ag ef a’r corff hwnnw’n gwahardd dosbarthu ei arian a’i eiddo neu eu harian a’u heiddo ymysg ei aelodau neu eu haelodau i raddau sydd gyfwerth o leiaf â’r hyn a osodir ar y Gymdeithas yn rhinwedd Cymal 5 uchod, fel y’i penderfynir gan Gyfarfod Cyffredinol, neu i’r graddau na throsglwyddir yr asedau, i’w dal i ddibenion elusennol.

Ni ellir newid y cymal 9 hwn na chymal 5 ond trwy bleidlais unfrydol pob aelod mewn Cyfarfod Cyffredinol Eithriadol ac ni fydd adran 17 o’r Ddeddf yn gymwys.

10. Caniateir newid cymalau yn y Memorandwm Cymdeithasiad ac eithrio cymal 9 a chymal 5 uchod trwy Benderfyniad Eithriadol a ddiffinnir drwy hyn fel un a dderbynnir gan fwyafrif na fydd lai na thair rhan o bedair o’r aelodau a fydd yn bresennol ac yn bwrw pleidlais mewn Cyfarfod Cyffredinol Eithriadol y rhoddwyd o leiaf un diwrnod clir ar hugain o rybudd ohono yn esbonio pwrpas galw’r cyfarfod.

  

Cymdeithas Meddalwedd Cymraeg

DEHONGLIAD

1. Yn y rheoliadau hyn:

ystyr "y Ddeddf" yw Deddf Cwmnïau 1985 ac 1989 gan gynnwys unrhyw ddiwygiadau statudol neu ailddeddfu arni tra pery mewn grym. ystyr "yr erthyglau" yw Erthyglau’r Gymdeithas. ystyr "diwrnodau clir" mewn perthynas â’r cyfnod o rybudd yw’r cyfnod hwnnw heb gynnwys dyddiad rhoi’r rhybudd na’r dyddiad y bernir iddo gael ei roi a’r dyddiad y’i rhoddir ar ei gyfer neu pan ddaw i rym. mae “gweithredu” yn cynnwys unrhyw ddull o weithredu. ystyr "yr ysgrifennydd" yw ysgrifennydd y Gymdeithas neu unrhyw berson arall a benodir i gyflawni dyletswyddau ysgrifennydd y Gymdeithas, gan gynnwys cyd-ysgrifennydd, ysgrifennydd cynorthwyol neu ddirprwy ysgrifennydd. ystyr "y Deyrnas Unedig" yw Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon.

Onid yw’r cyd-destun yn mynnu fel arall, bydd i eiriau ac ymadroddion yn y rheoliadau hyn yr un ystyr ag sydd iddynt yn y ddeddf ac eithrio unrhyw newidiadau statudol iddynt nad oeddynt mewn grym pan ymrwymwyd y Gymdeithas i’r rheoliadau hyn.

AELODAETH

2. Aelodau cyntaf y Gymdeithas fydd Tanysgrifwyr y Memorandwm Cymdeithasiad.

3. Gall Bwrdd y Cyfarwyddwyr dderbyn yn aelodau unrhyw berson sy’n ddeunaw oed ac

sy’n cytuno â Bwriadau’r Gymdeithas, heb wahaniaethu rhwng personau o safbwynt cyfoeth, gwleidyddiaeth, hil, crefydd, rhyw nac anabledd.

4. Bydd Bwrdd y Cyfarwyddwyr yn ystyried pob cais am fod yn aelod yn ei gyfarfod cyntaf

ar ôl derbyn y cais neu mor fuan wedi hynny ag y bo’n ymarferol bosibl. Wrth wrthod unrhyw gais am fod yn aelod, bydd Bwrdd y Cyfarwyddwyr yn sicrhau bod yr ymgeisydd yn ymwybodol o’i hawl i apelio i Fwrdd y Cyfarwyddwyr. 6. Os dymuna, bydd Bwrdd y Cyfarwyddwyr yn pennu tâl aelodaeth o bryd i’w gilydd.

CATEGORÏAU AELODAETH

7. Wrth dderbyn aelod, fe’i rhoddir yn un o’r categorïau aelodaeth perthnasol fel y gwêl

Bwrdd y Cyfarwyddwyr yn unig yn dda. Bydd y Bwrdd yn cadw’r hawl i wrthod aelodaeth i unrhyw ymgeisydd nad yw ym marn y Bwrdd yn cyflawni’r amodau isod. Y Bwrdd yn unig biau benderfynu beth yn ei farn ef sy’n safonol o fewn meddalwedd Cymraeg.

(a) "Aelod Cyflawn” fydd aelod sydd yn weithredol yn datblygu meddalwedd safonol Cymraeg, boed hynny o fewn y sector preifat, cyhoeddus neu wirfoddol, fel aelod o gwmni neu gymdeithas neu fel unigolyn. Aelodau cyflawn yn unig fydd â’r hawl i bleidleisio mewn Cyfarfodydd Cyffredinol.

(b) “Aelod Cefnogol” fydd aelod sydd yn cefnogi nodau ac amcanion y Gymdeithas ond heb fod yn weithredol yn datblygu meddalwedd safonol Cymraeg. Bydd croeso i aelodau cefnogol i fynychu a siarad yn y Cyfarfod Blynyddol, ond ni fydd hawl pleidleisio nac ethol swyddogion ganddynt.

COFRESTR AELODAU

8. Bydd y Gymdeithas yn cadw Cofrestr o aelodau a fydd yn cynnwys enw a chyfeiriad pob aelod, dyddiad ymaelodi a dyddiad peidio â bod yn aelod. Bydd pob aelod naill ai’n arwyddo

caniatâd ysgrifenedig i fod yn aelod neu’n arwyddo’r Gofrestr wrth ddod yn aelod.

TERFYNU AELODAETH

9. Terfynnir aelodaeth pob aelod ar unwaith pan fydd ef neu hi:

(i) yn peidio â chydymffurfio ag amodau’r aelodaeth a ddisgrifir yn Erthygl 4 ac

Erthygl 7; neu

(ii) yn ymddiswyddo trwy lythyr at yr Ysgrifennydd; neu

(iii) yn cael ei ddiarddel neu ei diarddel trwy Benderfyniad Eithriadol yn unol ag

Erthygl 25 mewn Cyfarfod Cyffredinol Eithriadol a alwyd i ystyried y mater; neu

(iv) yn marw, os bydd yn unigolyn; neu

(v) yn cael ei ddiddymu neu’n mynd yn fethdalwr, os yw’n gorff corfforedig; neu

(vi) yn methu â thalu’r tanysgrifiad blynyddol (os oes un) neu unrhyw arian arall sy’n

ddyledus i’r Gymdeithas.

10. Ni ellir symud na throsglwyddo hawliau a breintiau aelod, a daw holl hawliau a breintiau’r

aelod i ben pan na fydd mwyach yn aelod.

 

CYFARFODYDD CYFFREDINOL

11. Bydd y Gymdeithas ym mhob blwyddyn galendr yn cynnal Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

gan ddatgan y cyfryw gyfarfod yn yr hysbysiadau sy’n ei alw ar yr amod na chynhelir

unrhyw Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol ond y cyntaf fwy na phymtheng mis ar ôl cynnal

y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol blaenorol. Cynhelir Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

cyntaf y Gymdeithas o fewn deunaw mis i’w ymgorffori.

12. Bydd busnes Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn cynnwys:

(i) Derbyn adroddiadau’r Cadeirydd a Bwrdd Cyfarwyddwyr y Gymdeithas;

(ii) ystyried y cyfrifon archwiliedig (os oes rhai) a gyflwynir gan Fwrdd y

Cyfarwyddwyr;

(iii) ethol Bwrdd y Cyfarwyddwyr;

(iv) penderfynu sut i ddefnyddio unrhyw warged/elw;

(v) penodi a phennu tâl yr Archwilwyr (os oes tâl).

Bydd pob busnes arall yr ymdrinnir ag ef mewn Cyfarfod Cyffredinol yn Arbennig.

13. Cynhelir Cyfarfodydd Cyffredinol Cyffredin y Gymdeithas bob blwyddyn ond gall y Gymdeithas mewn Cyfarfod Cyffredinol benderfynu cynnal Cyfarfod Cyffredinol yn amlach.

14. Gall Bwrdd y Cyfarwyddwyr, pryd bynnag y gwêl yn dda, gynnull Cyfarfod Cyffredinol Eithriadol o’r Gymdeithas, neu gall unrhyw ddau aelod neu ddeg y cant o’r aelodaeth, pa un bynnag sydd fwyaf, gynnull Cyfarfod Cyffredinol Eithriadol yn unol â darpariaeth adran

368 o’r Ddeddf.

RHYBUDDION

15. Gelwir Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a chyfarfod a elwir i benderfynu ar gynnig arbennig fel y’i disgrifir yn Erthygl 25 trwy roi o leiaf un diwrnod clir ar hugain o rybudd.

Gellir galw unrhyw Gyfarfod Cyffredinol arall trwy roi o leiaf bedwar diwrnod clir ar ddeg o rybudd.

16. Rhoddir rhybudd o bob Cyfarfod Cyffredinol yn ysgrifenedig i bob aelod o’r Gymdeithas ac i’r Archwilwyr (os oes rhai) a’i roi’n bersonol iddynt neu ei anfon trwy’r post atynt neu i’w swyddfa gofrestredig neu i unrhyw gyfeiriad arall a roddwyd ganddynt i’r diben hwn o fewn y Deyrnas Unedig.

17. Ni fydd y cyfnod o rybudd yn cynnwys y diwrnod y cafodd ei roi a bydd y rhybudd yn nodi man cynnal ac union amser y cyfarfod a natur gyffredinol y materion yr ymdrinnir â hwy. Yn achos Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol bydd y rhybudd yn datgan ei fod yn gyfarfod o’r fath ac yn achos Cyfarfod Cyffredinol Eithriadol, disgrifir union natur y materion a drafodir yn y cyfarfod.

18. Pan anfonir rhybudd trwy’r post, ystyrir y bydd y rhybudd wedi ei roi os bydd wedi ei gyfeirio, ei ragdalu a’i bostio’n briodol a’i fod yn weithredol wyth awr a deugain ar ôl ei bostio.

19. Os na roddir rhybudd ar ddamwain o gyfarfod i unrhyw berson a ddylai gael rhybudd neu os na dderbynnir rhybudd o gyfarfod gan unrhyw berson sydd â hawl i dderbyn y rhybudd hwnnw, ni fydd hyn yn annilysu trafodion y cyfarfod hwnnw.

 

TRAFODION CYFARFODYDD CYFFREDINOL

20. Bydd gan bob aelod ac unrhyw bersonau eraill a fydd wedi derbyn rhybudd yr hawl i fod mewn Cyfarfod Cyffredinol ac i siarad ynddo.

21. Ni thrafodir unrhyw fater mewn Cyfarfod Cyffredinol oni cheir cworwm o aelodau’n cyfarfod. Y cworwm am y tro fydd 10 aelod sydd â hawl i bleidleisio.

22. Os na fydd cworwm hanner awr ar ôl yr amser a bennwyd i’r cyfarfod, fe’i gohirir tan yr un diwrnod yn yr wythnos ganlynol ar yr un amser ac yn yr un modd, neu fel arall fel y bydd y Cyfarwyddwyr yn penderfynu, ac os na fydd cworwm yn y cyfarfod gohiriedig ymhen hanner awr ar ôl yr amser a bennwyd i’r cyfarfod, bydd yr aelodau cyflawn sy’n cyfarfod yn gworwm.

23. Bydd y Cadeirydd neu, os na fydd ef neu hi yn y cyfarfod, Gyfarwyddwr a enwebwyd gan y Cyfarwyddwyr, yn llywyddu’r cyfarfod fel Cadeirydd, ond os na fydd y Cadeirydd na’r cyfryw Gyfarwyddwr (os oes un) yn y cyfarfod ymhen chwarter awr ar ôl yr amser a bennwyd i’r cyfarfod ac yn barod i lywyddu, bydd yr aelodau cyflawn yn ethol un o’u plith i fod yn Gadeirydd.

24. Gall y Cadeirydd gyda chydsyniad y cyfarfod â chworwm ynddo (ac os cyfarwyddir ef neu hi i wneud hynny) ohirio’r cyfarfod tan adeg arall ac i le arall ond ni thrafodir yn y cyfarfod gohiriedig unrhyw fater ond yr hyn y byddid wedi ei drafod yn y cyfarfod a ohiriwyd. Pan ohirir cyfarfod am ddeng niwrnod ar hugain neu fwy, rhaid rhoi rhybudd megis yn achos y cyfarfod gwreiddiol. Fel arall, ni fydd angen rhoi rhybudd o’r fath.

25. Penderfynir ar faterion mewn Cyfarfodydd Cyffredinol trwy bleidleisio ar gynigion:

(a) Bydd penderfyniadau ynglŷn â newid Cymal 5 a 9 yn y Memorandwm

Cymdeithasiad ac Erthyglau 61 a 62 a’r Erthygl 25(a) hon yn gofyn pleidlais unfrydol gan bob aelod cyflawn o’r Gymdeithas mewn Cyfarfod Cyffredinol Eithriadol y tystir iddi gan eu llofnodion.

(b) Bydd penderfyniadau ynglŷn â newid cymalau yn y Memorandwm Cymdeithasiad

heblaw’r rheini a nodir, a phenderfyniadau gofynnol eraill o bryd i’w gilydd gan statud a chan yr Erthyglau hyn, trwy Benderfyniad Arbennig. Diffinnir

Penderfyniad Arbennig fel penderfyniad a wneir gan fwyafrif o ddim llai na thair rhan o bedair o aelodau cyflawn y Gymdeithas sy’n cyfarfod ac yn pleidleisio mewn Cyfarfod Cyffredinol Eithriadol.

(c) Gwneir pob penderfyniad arall drwy fwyafrif yn unig mewn penderfyniad cyffredin.

26. Mewn unrhyw Gyfarfod Cyffredinol penderfynir ar fater a roddwyd ger bron y cyfarfod ac iddo bleidleisio arno drwy godi dwylo neu ddull addas arall o fwrw pleidlais oni ofynnir am bleidlais gudd, cyn neu wrth gyhoeddi canlyniad y bleidlais ddwylo, gan:

(a) y Cadeirydd, neu

(b) aelod neu aelodau cyflawn sy’n cynrychioli dim llai na degfed ran o gyfanswm y nifer yn y cyfarfod sydd â hawl i bleidleisio.

27. Oni ofynnir am bleidlais gudd o’r fath, bydd datganiad gan y cadeirydd bod cynnig wedi ei

gario neu wedi ei golli a chofnod o hynny yng nghofnodion trafodion y Gymdeithas yn dystiolaeth ddigamsyniol o’r ffaith ac ni fydd angen prawf o’r nifer neu’r gyfran a bleidleisiodd o blaid cynnig neu yn ei erbyn. Gellir tynnu cais am bleidlais gudd yn ôl.

28. Os gofynnir am bleidlais gudd fe’i cynhelir yn y modd y gwêl y cadeirydd yn dda ac ystyrir mai canlyniad y bleidlais gudd fydd penderfyniad y cyfarfod y gofynnwyd am bleidlais gudd ynddo.

29. Yn amodol ar ddarpariaethau’r Ddeddf, bydd cynnig ysgrifenedig wedi ei arwyddo gan

bawb a fydd bryd hynny’n aelodau cyflawn yn ddilys ac effeithiol fel pe bai wedi ei dderbyn mewn Cyfarfod Cyffredinol a gynullwyd a’i gynnal yn y modd priodol a gall gynnwys nifer o ddogfennau ar yr un ffurf, a phob un wedi ei harwyddo gan un aelod neu ragor.

30. Gellir bwrw pleidlais yn bersonol yn unig ac nid trwy ddirprwy ac ni fydd gan yr un aelod fwy nag un bleidlais.

31. Pan fwrir nifer cyfartal o bleidleisiau, bydd gan y Cadeirydd ail bleidlais neu bleidlais fwrw.

BWRDD Y CYFARWYDDWYR

32. Rheolir busnes y Gymdeithas gan Fwrdd o Gyfarwyddwyr a fydd yn atebol i’r aelodau.

33. Penodir Cyfarwyddwyr cyntaf y Gymdeithas gan y tanysgrifwyr i Femorandwm

Cymdeithasiad y Gymdeithas, ac ni wasanaethant am fwy na 3 blwyddyn. Yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol cyntaf ar ôl y cyfnod hwn, bydd canran o’r Cyfarwyddwyr yn ymddiswyddo ar benderfyniad y Bwrdd o bryd i’w gilydd a chânt gynnig cael eu hail ethol.

34. Etholir Bwrdd y Cyfarwyddwyr bob tair blynedd gan yr aelodau cyflawn yng Nghyfarfod

Cyffredinol Blynyddol y Gymdeithas a bydd gan aelodau sy’n ymddiswyddo hawl i gael eu hail ethol heb gael eu hail enwebu.

35. Anfonir gwahoddiadau at yr holl aelodau cyflawn yn gofyn am enwebiadau ar gyfer ethol

Cyfarwyddwr gyda rhybudd y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Derbynnir enwebiadau gorffenedig hyd at saith diwrnod cyn dyddiad y cyfarfod. Ar bob enwebiad bydd angen llofnod y sawl a enwebir a llofnod cynigydd a’r ddau/ddwy ohonynt yn aelodau cyflawn o’r Cwmni.

36. Oni phenderfynir yn wahanol gan y Gymdeithas mewn Cyfarfod Cyffredinol, ni fydd nifer y

Cyfarwyddwyr yn llai nag 8 nac yn fwy na 20.

37. Gall y Cyfarwyddwyr ar unrhyw adeg gyfethol unrhyw berson i Fwrdd y Cyfarwyddwyr boed yn aelod o’r Gymdeithas neu beidio, ar yr amod na fydd mwy na’r uchafrif a nodir yn Erthygl 36 ac na chaiff rhagor na thri eu cyfethol rhwng un Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a’r nesaf. Bydd pob person a gyfetholir felly yn ymddiswyddo yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn dilyn eu cyfethol ond byddant yn gymwys i’w hailbenodi wedi hynny.

TREFNIADAU BWRDD Y CYFARWYDDWYR

38. Gall aelodau Bwrdd y Cyfarwyddwyr gwrdd i gyflawni busnes, gohirio a rheoli eu cyfarfodydd mewn ffyrdd eraill fel y gwelant yn dda a phenderfynir ar gwestiynau sy’n codi mewn unrhyw gyfarfod trwy fwyafrif o bleidleisiau.

39. Pan fwrir nifer cyfartal o bleidleisiau, bydd gan y Cadeirydd ail bleidlais neu bleidlais fwrw.

40. Gall Cyfarwyddwr, a hefyd yr Ysgrifennydd ar sail cyfarwyddyd Bwrdd y Cyfarwyddwyr, gynnull cyfarfod o Fwrdd y Cyfarwyddwyr ar unrhyw amser rhesymol.

41. Y cworwm angenrheidiol i Fwrdd y Cyfarwyddwyr drafod busnes fydd 60 % o gyfarwyddwyr.

42. Os bydd nifer Bwrdd y Cyfarwyddwyr ar unrhyw adeg yn llai na’r isafrif a nodir yn Erthygl 36, gall weithredu fel Bwrdd y Cyfarwyddwyr i ddiben llenwi lleoedd gwag yn y corff neu i gynnull Cyfarfod Cyffredinol o’r Gymdeithas, ond nid i unrhyw ddiben arall.

43. Bydd y Cadeirydd neu os bydd ef neu hi’n absennol ryw gyfarwyddwr arall a enwebwyd gan Fwrdd y Cyfarwyddwyr yn llywyddu fel Cadeirydd y cyfarfod, ond os na fydd y Cadeirydd na’r cyfryw gyfarwyddwr (os oes un) yn bresennol ymhen chwarter awr ar ôl yr amser a bennwyd i gynnal y cyfarfod, bydd Bwrdd y Cyfarwyddwyr yn ethol un o’i blith i fod yn Gadeirydd.

44. Bydd Bwrdd y Cyfarwyddwyr yn peri bod cofnodion cywir yn cael eu gwneud o drafodion holl gyfarfodydd y Gymdeithas, Bwrdd y Cyfarwyddwyr ac unrhyw is-bwyllgorau ac o’r holl faterion yr ymdrinnir â hwy yn y cyfryw gyfarfodydd. Bydd yr holl gofnodion hyn ar gael i’w harchwilio gan unrhyw aelod o’r Gymdeithas yn ystod oriau gwaith arferol y Gymdeithas a chan unrhyw berson arall a awdurdodir gan y Gymdeithas mewn Cyfarfod Cyffredinol.

45. Bydd cynnig ysgrifenedig wedi ei arwyddo gan bawb a fydd bryd hynny yn Gyfarwyddwyr sydd â hawl i bleidleisio yn ddilys a bydd ganddo’r un effaith â phe bai wedi ei dderbyn mewn cyfarfod o Fwrdd y Cyfarwyddwyr a gall gynnwys nifer o ddogfennau ar ffurf debyg gan un neu fwy o’r Cyfarwyddwyr.

PWERAU BWRDD Y CYFARWYDDWYR

46. Rheolir busnes y Gymdeithas gan Fwrdd y Cyfarwyddwyr a all dalu holl dreuliau’r Gymdeithas fel y gwêl yn dda gan arfer holl bwerau’r Gymdeithas y caniateir i’r Gymdeithas eu gwneud nad yw’n ofynnol i’r Gymdeithas eu harfer neu eu gwneud drwy statud neu drwy’r Erthyglau hyn mewn Cyfarfod Cyffredinol.

47. Ni all yr un rheoliad a wneir gan y Gymdeithas mewn Cyfarfod Cyffredinol annilysu unrhyw weithred flaenorol gan Fwrdd y Cyfarwyddwyr a fuasai’n ddilys pe buasai’r rheoliad hwnnw heb ei wneud.

48. Caiff pob siec, addaweb, drafft, bil cyfnewid ac offeryn trosglwyddadwy arall a phob derbynneb am arian a dalwyd i’r Gymdeithas eu harwyddo, eu tynnu, eu derbyn, eu cadarnhau neu eu gweithredu, yn ôl y gofyn, yn y modd y bydd Bwrdd y Cyfarwyddwyr o bryd i’w gilydd yn ei benderfynu drwy benderfyniad.

49. Heb ragfarn flaenorol i’w bwerau cyffredinol, gall Bwrdd y Cyfarwyddwyr arfer holl bwerau’r Gymdeithas i fenthyca arian ac i forgeisio neu roi cyfarwyddyd ar ei ymgymeriad neu eiddo neu unrhyw ran ohono ac i gyhoeddi debenturau a gwarannau eraill boed yn llwyr neu fel gwarant rhag dyled, atebolrwydd neu ymrwymiad y Gymdeithas neu unrhyw drydydd parti.

50. Gall Bwrdd y Cyfarwyddwyr ddirprwyo ei bwerau i Is-bwyllgorau cymwys yn cynnwys pa aelodau bynnag o’r Gymdeithas fel y gwêl yn dda. Bydd unrhyw Is-bwyllgor a ffurfir drwy hynny yn cydymffurfio â’r rheoliadau y gall Bwrdd y Cyfarwyddwyr eu gosod arno.

51. Bydd Cyfarwyddwyr y Gymdeithas yn penodi dau Gyfarwyddwr a enwyd i lofnodi unrhyw ddogfennau cyfreithiol ar ran y Gymdeithas, gan gynnwys prydlesi lle bo angen llofnodion i weithredu pwerau’r Gymdeithas.

ANGHYMHWYSO A DIARDDEL CYFARWYDDWYR

52. Bydd swydd cyfarwyddwr yn dod yn wag ar unwaith os bydd ef neu hi yn:

(i) peidio â bod yn Gyfarwyddwr oherwydd unrhyw ddarpariaeth o dan y ddeddf neu o ganlyniad i waharddiad trwy gyfraith rhag bod yn Gyfarwyddwr; neu’n

(ii) mynd yn fethdalwr neu’n dod i unrhyw drefniant neu gyfamod gyda’i gredydwyr/chredydwyr; neu’n

(iii) dioddef neu o bosibl yn dioddef anhwylder meddwl a naill ai’n:

• cael ei dderbyn/ei derbyn i ysbyty yn rhinwedd cais am driniaeth o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 neu

• os gwneir gorchymyn gan lys sydd â grym (naill ai yn y Deyrnas Unedig neu rywle arall) mewn materion yn ymwneud ag anhwylder meddwl i’w gadw/chadw neu i benodi derbynnydd, curator bonis neu rywun arall i arfer pwerau mewn perthynas â’i (h)eiddo neu ei f/materion; neu

(iv) ymddiswyddo trwy roi rhybudd i’r Gymdeithas; neu

(v) os bydd yn absennol o gyfarfodydd y Cyfarwyddwyr fwy na phedair gwaith yn olynol a gynhelir yn ystod y cyfnod hwnnw heb ganiatâd Bwrdd y Cyfarwyddwyr ac os bydd y Cyfarwyddwyr yn penderfynu ei (d)diswyddo; neu

(vi) os caiff ei (d)diswyddo trwy benderfyniad gan y Gymdeithas mewn Cyfarfod Cyffredinol yn unol ag Adran 303 o’r Ddeddf.

TALU CYFARWYDDWYR

53. Bydd unrhyw arian a delir i Gyfarwyddwyr yn dâl yn unig am wasanaethau a ddarperir i’r Cwmni, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau Cymal 5 o’r Memorandwm Cymdeithasiad, gan gynnwys talu cyflog teg/ffi deg a phriodol yn achos Cyfarwyddwyr a gyflogir/comisiynir gan y Gymdeithas. Gellir talu i Gyfarwyddwyr hefyd unrhyw dreuliau rhesymol a ysgwyddir ganddynt wrth fynychu cyfarfodydd neu ddychwelyd o gyfarfodydd Cyfarwyddwyr neu Gyfarfodydd Cyffredinol y Gymdeithas neu mewn perthynas â busnes y Cwmni.

YSGRIFENNYDD A SWYDDOGION GWEITHREDOL ERAILL

54. Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r Ddeddf, penodir yr ysgrifennydd a swyddogion gweithredol eraill gan Fwrdd y Cyfarwyddwyr am ba gyfnod neu dâl bynnag neu o dan ba amodau bynnag ag y gwêl yn dda, a gellir diswyddo unrhyw ysgrifennydd neu swyddog gweithredol a benodir yn y modd hwnnw.

CYFRIFON

55. Bydd Bwrdd y Cyfarwyddwyr yn peri bod cyfrifon cywir yn cael eu cadw mewn perthynas â’r canlynol:

(i) Yr holl arian a dderbynnir ac a werir gan y Gymdeithas a’r materion y mae’r derbyniadau a’rgwariannau hynny yn gysylltiedig â hwy.

(ii) Yr holl nwyddau a/neu (g)wasanaethau a brynir neu a werthir gan y Gymdeithas; ac

(iii) Asedau a rhwymedigaethau’r Gymdeithas.

Ystyrir bod cyfrifon cywir wedi eu cadw os ydynt yn rhoi cofnod gwir a theg o sefyllfa’r Cwmni ac yn esbonio ei drafodion ariannol.

56. Cedwir y cyfrifon yn swyddfa gofrestredig y Gymdeithas neu mewn unrhyw le arall y gwêl Bwrdd y Cyfarwyddwyr yn dda, a byddant bob amser ar gael i holl aelodau’r Gymdeithas eu harchwilio yn amodol ar gymeradwyaeth Bwrdd y Cyfarwyddwyr yn ystod oriau gwaith arferol a chan unrhyw rai eraill a awdurdodir gan y Gymdeithas mewn Cyfarfod Cyffredinol.

57. Bydd Bwrdd y Cyfarwyddwyr o bryd i’w gilydd yn unol â’i ymrwymiadau statudol yn peri paratoi a dwyn ger bron y Gymdeithas mewn Cyfarfod Cyffredinol y cyfrifon incwm a gwariant, mantolenni ac adroddiadau hynny sy’n ofynnol trwy statud.

DEFNYDDIO GWARGED

58. Defnyddir arian gwarged y Gymdeithas fel a ganlyn, ar sail y cyfrannau ac yn ôl y dulliau a argymhellir gan Fwrdd y Cyfarwyddwyr ac a gymeradwyir yn y Cyfarfod Cyffredinol

Blynyddol:

(i) i greu cronfa gyffredinol wrth gefn i sicrhau parhad a datblygiad y Gymdeithas;

(ii) i’w dalu i ddibenion cymdeithasol ac elusennol.

RHEOLAU NEU IS-DDEDDFAU

59. Gall Bwrdd y Cyfarwyddwyr o bryd i’w gilydd wneud y Rheolau neu’r Is-ddeddfau y gwêl yn dda eu gwneud er mwyn sicrhau bod y Gymdeithas yn cael ei redeg a’i reoli’n briodol. Bydd gan y Gymdeithas mewn Cyfarfod Cyffredinol bŵer i newid neu i ddiddymu’r Rheolau neu’r Is-ddeddfau ac i ychwanegu atynt a bydd Bwrdd y Cyfarwyddwyr yn mabwysiadu pa ddulliau bynnag a fernir yn ddigonol i ddwyn sylw aelodau’r Gymdeithas at bob Rheol neu Is-ddeddf o’r fath, a fydd, tra parhânt mewn grym, yn ymrwymiad ar holl aelodau’r Cwmni. Ar yr amod, serch hynny, na fydd unrhyw Reol neu Is-ddeddf yn anghyson â’r hyn a geir yn y Memorandwm yn Erthyglau’r Gymdeithas.

INDEMNEDD

60. Indemnir pob aelod, Cyfarwyddwr, Ysgrifennydd y Gymdeithas, archwilydd (os oes un) a swyddog arall tra pery’r Gymdeithas o asedau’r Gymdeithas rhag unrhyw golled neu atebolrwydd a achosir ganddynt o ganlyniad wrth weithredu dyletswyddau ei swydd yn ddarostyngedig i ddarpariaethau adran 310 o’r Ddeddf, ac eithrio lle bo colled neu atebolrwydd o’r fath i’w briodoli i’r canlynol:

(i) twyll neu faterion eraill y gellir dedfrydu’r aelod dan sylw yn euog o drosedd amdanynt; neu

(ii) esgeulustod; neu

(iii) gweithredoedd a gyflawnwyd yn ymwybodol gan y person dan sylw sydd y tu hwnt i awdurdod penodol neu unrhyw derfyn ar yr awdurdod hwnnw.

DIDDYMIAD

61. Bydd cymal 9 o’r Memorandwm Cymdeithasiad mewn perthynas â diddymu’r Gymdeithas a’i ddwyn i ben yn weithredol fel pe bai’r darpariaethau hynny wedi eu hatgynhyrchu yn yr Erthyglau hyn.

DIWYGIO ERTHYGLAU

62. Ni ellir diwygio Erthyglau’r Cymdeithasiad hyn ond drwy Benderfyniad Arbennig a wneir yn unol ag Erthygl 25 ac eithrio lle nodir fel arall. Ni fydd unrhyw ddiwygiad i Erthyglau’n ddilys oni chofrestrir ef gyda Chofrestrydd y Cwmnïau.

ARCHWILIAD CYMDEITHASOL

63. Gellir cynnal archwiliad cymdeithasol, trwy benderfyniad y Gymdeithas mewn Cyfarfod Cyffredinol, bob blwyddyn o weithgareddau’r Gymdeithas, yn ogystal â’r archwiliad ariannol sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith. Amcan archwiliad cymdeithasol o’r fath fyddai cloriannu costau a manteision cymdeithasol gwaith y Gymdeithas, a’i gwneud yn haws cynnal asesiad o berfformiad cyffredinol y Gymdeithas mewn perthynas â’i Bwriad.

Gallai archwiliad cymdeithasol o’r fath gael ei lunio gan asesydd annibynnol a benodwyd gan y Gymdeithas mewn Cyfarfod Cyffredinol, neu gan Fwrdd y Cyfarwyddwyr a all gyflwyno ei adroddiad i asesydd annibynnol i’w ddilysu neu i dderbyn sylwadau arno.

Gall archwiliad cymdeithasol gynnwys asesiad o sut mae gweithwyr cyflogedig y Gymdeithas yn cydweithio’n fewnol, gan gynnwys barn y gweithwyr hynny, democratiaeth fewnol a gwneud penderfyniadau cyflogau, iechyd a diogelwch, rhannu sgiliau a chyfleoedd addysg, neu faterion eraill yn ymwneud â bodlonrwydd personol neu broffesiynol cyffredinol; asesiad o weithgareddau allanol y Gymdeithas, gan gynnwys ei effeithiau ar rai sydd yn yr un fasnach neu fasnach debyg, ar gwsmeriaid a chyflenwyr, ac ar rai sy’n byw yn yr ardal lle lleolir y Gymdeithas.

 

 


hawlfraint ©2006 Cymdeithas Meddalwedd Cymraeg